Grŵp Trawsbleidiol ar Diabetes

Cross Party Group on Diabetes

18.01.23. 12:15 – 13:15

Cofnodion | Minutes

 

Cadeirydd | Chair: Jayne Bryant AS

Is-gadeirydd | Vice Chair Rhun ap Iorwerth AS

Ysgrifennydd | Secretary:  Diabetes UK Cymru, Mathew Norman, Rheolwr Polisi a Materion Cyhoeddus

 

Ymddiheuruadau | Apologies:

 

·         Rhun ap Ioewerth AS – Roedd Rhys Jones o’i swyddfa yn bresennol

·         Tess Saunders, RCPOD

 

Presenoldeb | Attendance :

 

·         Jayne Bryant MS

 

Agenda:

 

Time | Amser

Pwnc

Topic

12:30

1.      Cyflwyniadau

1.      Introductions

12:35

2.      Materion yn codi o'r cyfarfod ar 12 Hydref 2022.

2.      Matters arising from 12th of October 2022 meeting.

12:40

3.      Gwasanaethau Lleddfu – Adroddiad Gwasanaeth Lleddfu Diabetes Cymru Gyfan Ionawr 2020 – Mawrth 2022

3.      Remission Services – All Wales Diabetes Remission Service Report Jan 2020 – March 2022

13:00

4.      C&A

4.      Q&A

13:10

5.      Trafodaeth Agored: Cyflwr presennol gofal diabetes yng Nghymru, llywodraethu yn y dyfodol a datganiad ansawdd sydd i ddod.

5.      Open Discussion: Current state of diabetes care in Wales, future governance and imminent quality statement.

13:25

6.      UFA

6.      AOB

13:30

7.      Cloi – Rydym wedi cytuno ar ddyddiadau nawr ar gyfer y 2 Grŵp nesaf

7.      Close – We have agreed dates now for the next 2 CPGs

 

1.      Cyflwyniadau | Introductions (5 mun)

 

·         Ymddiheuriadau

 

Rhun ap Iorwerth AS

Sam Kurts AS

 

·         Cyflwyniad cyflym gan y rhai oedd yn bresennol:

 

Lee Gonzales, Swyddfa Joel James AS

Rob Lee, Is-gadeirydd AWDPRG

Rachel Burr, Cyfarwyddwr Diabetes UK Cymru

Emma Burke, Cymdeithas Strôc

Rob French, Prifysgol Caerdydd

Sara Crowley, Cydgysylltydd Cenedlaethol Gofal Pontio Diabetes

Doyle Rayland

Owen Jones - Swyddfa Jayne Bryant AS

Wendy Gayne, Grŵp Cyfeirio Cleifion Diabetes Cymru Gyfan

Nirupa D'Souza

Tess Saunders, RCPOD

Tracy Wiggham, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - Iechyd Plant

Chris Cottrell, Arweinydd Addysg Diabetes / ThinkGlucose a DSN

Julia Platts, Arweinydd Clinigol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Mark Isherwood AS

Joel James AS

Dr Altaf Hussain AS 

Jayne Bryant AS, Cadeirydd

Mathew Norman, Diabetes UK Cymru, Ysgrifenyddiaeth

 

·         Apologies

 

Rhun ap Iorwerth MS

Sam Kurtz MS

 

·         Quick introduction by attendees.

 

Lee Gonzalez, Office of Joel James MS

Rob Lee, Vice Chair of AWDPRG

Rachel Burr, Director of DUK Cymru

Emma Burke, Stroke Association

Rob French, Cardiff University

Sara Crowley, Diabetes Transitional Care National Coordinator

Doyle Rayland

Owen Jones, Office of Jayne Bryant MS

Wendy Gayne, All Wales Patient Reference Group on Diabetes

Nirupa D’Souza

Tess Saunders, RCPOD

Tracy Wiggham, Cardiff and Vale UHB- Child Health

Chris Cottrell, Diabetes Education/ThinkGlucose Lead & DSN

Julia Platts, Clinical Lead, Cardiff and Vale UHB.

Mark Isherwood MS

Joel James MS

Dr Altaf Hussain MS

Jayne Bryant MS, Chair

Mathew Norman, Diabetes UK Cymru, Secretariat

 

 

2.      Materion yn codi o gyfarfod 12 Hydref 2022| Matters arising from 12th of October 2022 meeting (10 mun)

 

·         Llythyr a anfonwyd at y Dirprwy Weinidog Lynne Nealge AS i dynnu sylw at ganlyniadau’r arolwg/ymchwil i gefnogi galwadau am fynediad ac ymwybyddiaeth bellach o wasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru.

·         Roedd 21ain Digwyddiad Peter Baldwin yn y Senedd yn llwyddiannus - diolch i Jayne Bryant AS am noddi’r digwyddiad ac i’r rhai oedd yn bresennol.

o   Lansiad Astudio ELSA

o   Ddiweddariad Ymgyrch 4T

·         Letter sent to the Deputy Minister Lynne Nealge MS to highlight the survey/research results to support calls for further access and awareness of mental health services in Wales.

·         Peter Baldwin’s 21st Event in the Senedd a success – thanks for Jayne Bryant MS for sponsoring the event and for those present in attending.

o   ELSA Study Launch

o   4Ts Campaign Refresh

 

3.      Adroddiad Gwasanaethau Lleddfu Diabetes Cymru Gyfan Ionawr 2020 – Mawrth 2022 | Wales Diabetes Remission Services Report Jan 2020 – March 2022 (20 mun)

·         Cyflwyniad gan Catherine Washboork-Davies, Arweinydd Maeth a Deieteg Cymru Gyfan ar gyfer Diabetes.

·         - Bydd cyflwyniad a thaflenni'n cael eu dosbarthu ar ôl y Grŵp

 

Nodwyd y canlynol:

 

- Mae rheoli pwysau yn effeithiol ar gyfer atal diabetes math 2 a’i leddfu.

- Dangosodd astudiaeth DiRECT fod rhaglen ddwys o reoli pwysau wedi arwain at leddfu diabetes mewn 46 y cant o'r cyfranogwyr.

- Cafodd y Rhaglen Lleddfu Diabetes math 2 yng Nghymru ei gweithredu fel prosiect peilot yn cynnwys pedwar bwrdd iechyd prifysgol.

- Ar ddiwedd yr ymyrraeth 12 mis, cafodd diabetes ei leddfu mewn 62 y cant o gleifion, ac roedd 79 y cant yn dangos gwelliannau mewn rheoli diabetes.

-Mae colli pwysau yn cynnig manteision iechyd a gall leihau'r risg o ddatblygu cyflyrau fel clefyd y galon a rhai canserau.

- Bydd y modelau cyllido ar gyfer y rhaglen yng Nghymru yn llywio penderfyniadau ynghylch ei chynaliadwyedd ac i ba raddau y gall weithio.

- Mae gan y rhaglen y potensial i leihau costau gofal iechyd sy'n gysylltiedig â rheoli diabetes.

- Gall ehangu a gwerthuso'r rhaglen ymhellach wella gofal a chymorth diabetes math 2 yng Nghymru.

 

·         Presentation from Catherine Washboork-Davies, All Wales Nutrition & Dietetic Lead for Diabetes.

·         – Presentation and handouts will be circulated after the CPG.

 

It was noted that:

 

- Weight management is effective for type 2 diabetes prevention and remission.

- The DiRECT study showed that an intensive weight management program led to 46% of participants achieving type 2 diabetes remission.

- The type 2 diabetes Remission Programme in Wales was implemented as a pilot project involving four university health boards.

- At the end of the 12-month intervention, 62% of patients achieved remission, and 79% showed improvements in diabetes control.

- Weight loss offers health benefits and can reduce the risk of developing conditions like heart disease and certain cancers.

- The funding models for the programme in Wales will inform decisions regarding its sustainability and scalability.

- The programme has the potential to reduce healthcare costs associated with diabetes management.

- Further expansion and evaluation of the programme can improve type 2 diabetes care and support in Wales.

 

 

4.      C&A | Q&A (10 mun)

 

·         Cwestiynau i Diabetes UK gan y rhai oedd yn bresennol yn  y cnawd ac ar-lein.

 

Gofynnodd yr Aelodau am arbedion posibl y rhaglen ar gyfer y GIG, nodwyd er nad oedd dadansoddiad o’r costau wedi'i gynnal, y byddai'r arbedion costau i'r GIG y tu hwnt i arbedion posibl y cyffuriau yn unig. Gall effeithiau tymor hir diabetes math 2 arwain at gymhlethdodau iechyd difrifol, a thrwy ohirio / oedi'r cyflwr tan yn ddiweddarach mewn bywyd, gall lleddfu atal y cymhlethdodau hyn rhag digwydd / lleihau difrifoldeb. Felly, yn ogystal â chael ei theimlo mewn materion fel llawdriniaeth, byddai’r effaith hefyd yn cael ei theimlo yn y gefnogaeth a’r gofal i gleifion sy'n colli coesau neu freichiau neu'n colli eu golwg oherwydd cymhlethdodau diabetes.

 

Gofynnodd yr Aelodau a oedd y rhaglen yn un i Gymru gyfan, nodwyd mai cynllun peilot oedd hwn ac er ei fod yn cael ei gynnal ychydig cyn y pandemig ac yn dod i ben yn ystod y pandemig, mae'r canlyniadau'n dangos rhaglen effeithiol y gellid ei chyflwyno ymhellach. Mae'r achos busnes wedi cael ei gynnig i Lywodraeth Cymru gyda sawl opsiwn yn amrywio o wneud dim byd i gyflwyno’n llawn.

 

Gofynnodd yr Aelodau pam mae'r ffocws ar bobl hŷn, pam ddim ar bobl iau? Nodwyd bod yr oedran arferol ar gyfer diagnosis newydd o fath 2 yn tueddu i fod yn hŷn, (er bod hynny bellach yn cael ei herio, wrth i achosion godi bellach ymhlith pobl iau). Fodd bynnag, yr allwedd i'r rhaglen yw canfod pobl sydd mewn perygl a chyn neu ychydig ar ôl diagnosis o ddiabetes math 2. Mae cyflyrau cysylltiedig fel gordewdra hefyd yn gyffredin ar y cyfan yn ddiweddarach mewn bywyd ac yn fwyaf tebygol o fod yn bresennol fel cyn-diabetig. Felly, ar hyn o bryd, y garfan bresennol fyddai prif nod y rhaglen. Mae ymchwil wedi dangos, gyda cholli 10kg o bwysau i bobl â BMI uchel, mai dyma’n gyffredinol lle mae lleddfu’n digwydd.

 

Gofynnodd yr Aelodau a yw'n hysbys o ble y byddai'r cyllid yn y dyfodol yn dod, cyn i Weithrediaeth y GIG newid. Nid oedd yn glir lle y byddai'r cyllid yn cael ei sicrhau yn y dyfodol.

 

Gofynnodd yr Aelodau a oedd y pandemig o fudd i'r rhaglen neu'n rhwystr. Nodwyd ei fod yn ganlyniad cymysg, gyda'r anallu i gymdeithasu a bwyta allan, roedd rhai yn gweld y rhaglen yn haws i'w dilyn. Roedd eraill yn ei chael yn anos gan nad oeddent yn gallu bod o gwmpas grwpiau cyfoedion a ffrindiau a fyddai'n cefnogi eu hymdrechion.

 

·         Questions to DUK from the attendees in person and virtually.

 

Members asked of the potential savings of the programme for the NHS, it was noted that although a cost analysis had not been conducted, the cost savings to the NHS would be beyond that of the drugs alone. The long-term impacts of type 2 diabetes can have severe health complications, and by delaying / deferring the condition until later in life, remission can prevent these complications from occurring/reducing the severity. Therefore the impact would not only be felt in matters such ar surgery, but also in support and care for patients losing limbs or sight from diabetes complications.

 

Members asked if the programme was Wales-wide, it was noted that this was a pilot and although conducted just before and ended during the pandemic, the results indicate an effective programme which could be rolled out further. The business case has been proposed to the Welsh Government with several options from doing nothing to a full rollout.

 

Members asked why the focus on older people, why not younger people? It was noted that the usual age for new diagnosis for type 2 tends to be older, (although that is currently being challenged as cases are now found in younger people). However, the key to the programme is to find people at risk and before or just after diagnosis of type 2 diabetes. Associated conditions such as obesity are also generally prevalent later in life and most likely present as pre-diabetic. Therefore at this stage, the current cohort would be the main aim of the programme. Research has shown that with a weight loss of 10kg for people with a high BMI, this is generally where remission is achieved.

 

Members asked if it is known of where the future funding would come from, ahead of the NHS Executive changes. It was unclear where the future funding would be secured.

 

Members asked if the pandemic was a benefit or hindrance to the programme. It was noted that it was a mixed result, with the inability to socialise and eat out, some found the programme easier to follow. Others found it more difficult as they were unable to be around peer groups and friends who would support their efforts.

 

 

 

5.      Trafodaeth Agored: Cyflwr presennol gofal diabetes yng Nghymru, llywodraethu yn y dyfodol a datganiad ansawdd sydd i ddod. | Open Discussion: Current state of diabetes care in Wales, future governance and imminent quality statement. (20 mun)

·         Bydd pawb sy'n bresennol yn rhannu eu pryderon a'r wybodaeth ddiweddaraf am ofal diabetes yng Nghymru. Gallai'r drafodaeth arwain at gamau i'r Grŵp eu cymryd a/neu Diabetes UK Cymru.

·         Agorwyd y drafodaeth gan Gyfarwyddwr Diabetes UK Cymru.

 

Materion a godwyd ar gyfer meysydd trafod / adolygu:

 

·         Strategaeth Ataliol, yn enwedig diabetes math 2 mewn plant ac oedolion ifanc.

·         Dyfodol polisi gordewdra a Pwysau Iach Cymru Iach

·         Eitemau hyrwyddo a gwahardd rhai cynhyrchion rhag cael eu hysbysebu

·         Goblygiadau yfed a diodydd egni ar diabetes

·         Gofynnodd Mark Isherwood AS a oedd modd ystyried cyfarfod ar y cyd o'r APPG ar Ddiabetes yn Nhŷ'r Cyffredin.

·         Trafodwyd y defnydd o dechnoleg yng Nghymru yn ogystal â'r angen i ddysgu faint sy'n ei defnyddio yng Nghymru.

·         Dysgu am raglenni'r dyfodol sydd o dan fygythiad o golli cyllid o'r newidiadau i Weithrediaeth GIG Cymru.

·         Iechyd meddwl a gofal diabetes

·         Diabetes math 1 mewn plant a'u gofal

 

·         Awgrymodd y Cadeirydd y dylai'r Grŵp edrych ar adolygu Cyflwr Gwasanaethau Diabetes y Genedl yng Nghymru a cheisio cynnal ymchwiliad i gasglu data i gyfrannu i adroddiad y Grŵp.

·         Mae'r 2 Grŵp nesaf wedi'u trefnu a gallwn drefnu'r trydydd a neilltuo 3 chyfarfod Grŵp i gynnal yr ymchwiliad.

·         Bydd yr ymchwiliad yn ystyried y Datganiad Ansawdd a sut y bydd gofal diabetes yn cael ei ddarparu a'i flaenoriaethu yng Nghymru.

·         Dilynir hyn gan Ddigwyddiad yn y Senedd i gyflwyno'r adroddiad ar Ddiwrnod Diabetes y Byd 2023 ddydd Mawrth 14 Tachwedd.

 

·         All attendees will share their concerns and updates for diabetes care in Wales. The discussion could lead to actions for the CPG to undertake and/or Diabetes UK Cymru.

·         Director of Diabetes UK Cymru opened the discussion.

 

Matters raised for futher areas of discussion/review:

 

·         Preventative Strategy, especially type 2 diabetes in children and young adults.

·         Future of obesity policy and Healthy Weight Healthy Wales

·         Promotional items and bans on certain products being advertised

·         Implication of drinking and energy drinks on diabetes

·         Mark Isherwood MS asked whether a joint meeting of the APPG on Diabetes in the House of Commons could be considered.

·         Tech use in Wales was discussed as well as the need to learn its uptake in Wales.

·         Learning of future programmes under threat of loss of funding from the changes to the NHS Wales Executive.

·         Mental health and diabetes care

·         Type 1 diabetes in Children and their care.

 

·         The Chair suggested that the CPG should look to review the State of the Nation of Diabetes Services in Wales and look to hold an inquiry to collect data to feed into a CPG report.

·         The next 2 CPGs have been arranged and we can arrange the third and dedicate 3 CPG meetings to conduct the inquiry.

·         The inquiry will take into account the Quality Statement and how diabetes care will be delivered and prioritised in Wales.

·         This will be followed by a Senedd Event to present the report on World Diabetes Day 2023 which is on Tuesday the 14th of November.

 

 

6.      UFA | AOB

 

·         Chwefror 15 Digwyddiad Ymchwil Diabetes ac Addysg a noddir gan Carolyn Thomas AS.

·         Arolwg Diabetes is Serious i'w lansio ddiwedd y mis a bydd yn rhedeg tan 25 Chwefror.

·         February 15th Diabetes and Education Research Event sponsored by Carolyn Thomas MS.

·         Diabetes is Serious Survey to launch at the end of the month and will run until the 25th of February.

 

 

7.      Cloi |Close

 

·         Dyddiadau’r cyfarfodydd nesaf yw:

o   26.04.23

o   28.06.23

Yr un ystafell a heddiw, Tŷ Hywel C a D , a bydd  yn hybrid

·         Ewch ag unrhyw fwyd dros ben gyda chi i'r swyddfa / gartref os ydych yn yr ystafell gyfarfod

·         Next meeting dates are:

o   26.04.23

o   28.06.23

Same room and place today Ty Hywel C & D and will be hybrid

·         Take any left-over food back with you to office/home if in person